if ( false !== et_get_option( 'show_footer_social_icons', true ) ) {get_template_part( 'includes/social_icons', 'footer' ); }?>
Mae sawl mlynedd wedi bod ers eu hymweliad diwethaf i’r Rhyl, felly bydd croeso cynnes yn aros am y côr cymysg rhyngwladol o Wrecsam a’u Cyfarwyddwr Cerdd Jean Stanley Jones. Byddan nhw’n canu eu detholiad diweddar, sef cappella yn bennaf, yn dilyn perfformiadau llwyddiannus yn 2018 yn Rhufain, Y Fatican ac Ynys Môn.