if ( false !== et_get_option( 'show_footer_social_icons', true ) ) {get_template_part( 'includes/social_icons', 'footer' ); }?>

Sylwch y newid yn y drefn:

  • J.S.Bach – Felix Mendelssohn: Chaconne o Partita Rhif. 2 mewn D leiaf BWV1004 wedi ei drefnu ar gyfer ffidil a phiano
  • Bela Bartok: Rhapsody Rhif.1 ar gyfer ffidil a phiano Pancho Vladigerov: Bulgarian Rhapsody “Vardar” ar gyfer ffidil a phiano.
  • Edvard Grieg: Sonata Rhif.2 mewn G fwyaf ar gyfer ffidil a phiano, Op.13
  • Igor Stravinsky: Divertimento ar ôl “Fairy’s Kiss”

 

Ar gais y cyhoedd, mae fiolinydd Gwobr Cerddoriaeth Clasurol Karl Jenkins yn dychwelyd i ymuno gyda’i chydweithiwr o Rwsia. Roedd eu perfformiad diwethaf yma yn llwyddiant ysgubol. Maen nhw wedi perfformio gyda’i gilydd ers blynyddoedd lawer ac mae hynny’n amlwg. Roedd Felix gŵr Irina yn athro ar Joo Yeon a bu iddo hefyd ddysgu llawer o gerddorion eraill fel Edward Dusinberre o’r Pedwarawd Takács.

Ymysg uchafbwyntiau 2017 Joo Yeon mae’r CD Deutsche Grammophon a pherfformiad cyntaf y byd o “Cantata Memoria – For the Children” gan Syr Karl Jenkins, a’i CD unigol ‘Suites & Fantasies’ gydag Irina.