if ( false !== et_get_option( 'show_footer_social_icons', true ) ) {get_template_part( 'includes/social_icons', 'footer' ); }?>
Loading Events

« All Events

  • This event has passed.

Rhiannon Mathias – ffliwt, Elinor Bennett – telyn

14th November 2018 @ 7:30 pm - 9:30 pm

£12
  • Spohr, Sonata i’r ffliwt (neu ffidl) a thelyn, op. 113,
  • Persichetti, Serenade rhif 10 i’r ffliwt a’r delyn a gwaith gan Donizetti, Debussy a Tailleferre.

Mae cyfuno’r ffliwt a’r delyn yn un o ensembles deuawd mwyaf naturiol mewn cerddoriaeth.

Mae Dr Rhiannon Mathias yn chwaraewraig ffliwt gyda rhagoriaeth a hefyd yn awdures gyda diddordeb mawr mewn cerddoriaeth fodern.

Fe astudiodd hi gerddoriaeth ym Mhrifysgol Surrey, Coleg St. John’s, Caergrawnt, a pharhau gyda’i hymchwil ar Schoenberg a Stravinsky ym Mhrifysgol Reading.  Mae hi’n ddarlithwraig profiadol, yn ddarlledwraig ac yn siaradwraig gyhoeddus, ac fe gaiff ei chydnabod fel arbenigwr ar gerddoriaeth Grace Williams, Elizabeth Maconchy ac Elisabeth Lutyens. Mae Rhiannon yn chwaraewraig ffliwt sydd wedi cyflawni llawer ac wedi bod yn diwtor ers 2005 yng Nghanolfan Gerdd William Mathias yng Nghaernarfon.

Mae’r delynores Elinor Bennet yn un o’r cerddorion mwyaf adnabyddus yng Nghymru ac mae wedi bod ar flaen perfformiadau ac addysg gerddoriaeth am sawl mlynedd. Mae hi wedi teithio llawer yn cynnal cyngherddau, chwarae darnau unigol a chynnal dosbarthiadau meistr, ac fe gaiff ei hystyried yn un o athrawon telyn mwyaf dylanwadol Prydain. Roedd hi’n hanfodol iawn yng ngwaith sefydlu’r CGWM.  Bu i gyngerdd diwethaf Elinor yn Y Rhyl gyda thair telyn yn 2016 wneud argraff dda.

Details

Date:
14th November 2018
Time:
7:30 pm - 9:30 pm
Cost:
£12

Organizer

Stephen Leeder

Venue

Rhyl Town Hall
Rhyl Town Hall, Wellington Road,
Rhyl, LL18 1BA United Kingdom
+ Google Map