if ( false !== et_get_option( 'show_footer_social_icons', true ) ) {get_template_part( 'includes/social_icons', 'footer' ); }?>

Ensemble Karolos

Harriet Mackenzie – ffidil, Sarah-Jane Bradley – fiola, Graham Walker – sielo

  • Schubert: Triawd Llinynnol mewn B meddalnod, D.581
  • Dodgson: Triawd Llinynnol Rhif. 1
  • Beethoven: Triawd Llinynnol mewn E meddalnod, Op.3

Caiff y cyngerdd ei gefnogi gyda help Ymddiriedolaeth Stephen Dodgson.

Mae Harriet wedi bod i’r Rhyl eisoes gyda Kosmos a Milos Milivojevic, fel deuawd gyda Danny Driver ac mae hi yma y tro yma fel than o ensemble newydd o wyth cerddor. Mae ei phersona arall fel rhan o Retorica, deuawd ffidil. Mae hi’n perfformio ledled y byd ac yn cynhyrchu recordiadau sy’n tueddu i dderbyn adolygiadau gwych.

Jonathan Richards – gitâr gyda Phibgyrn Syrinx

  • Jonathan: Dowland, Tansman, Tarrega ac eraill
  • Syrinx: o Elisabethaidd i jazz
  • Jonathan + Syrinx: Concerto gitâr Vivaldi

Mae Jonathan yn gitarydd medrus sydd wedi ymweld â ni sawl gwaith dros y blynyddoedd. Heno mae’n dychwelyd gyda cherddoriaeth yn deillio o’r oes Elisabethaidd hyd at y cyfnod jazz ar ddechrau’r 20fed ganrif.

Aelodau’r Syrinx ydy Catherine Robinson (Cyfarwyddwr), Alan Collins, Carolyn Sherlock a Joy Shutt.

Isata, Konya and Jeneba Kanneh-Mason

  • Konya:
    • Haydn: Sonata in E leiaf Rhif 59
  • Liszt:
    • Sonetto Del Petrarca 104
  • Isata:
    • Ravel: Gaspard de la Nuit (gyda barddoniaeth)
  • Jeneba:
    • Scarlatti: Sonata K29 in D major
    • Rachmaninov: Étude-Tableau No 5
    • Glinka-Balakirev: The Lark
    • Bartok: Étude No 1
  • Isata:
    • Beethoven: Sonata Pathetique

Yn dilyn ei pherfformiad yma y llynedd gyda’i brodyr Sheku a Braimah, mae Isata yn dychwelyd gyda dwy o’i chwiorydd sydd hefyd yn bianyddion o’r teulu anhygoel hwn.

Cyn pob symudiad y Ravel, byddwn yn clywed y gerdd berthnasol gan Aloysius Bertrand wnaeth ysbrydoli Ravel i ysgrifennu’r darn o gerddoriaeth hon a bydd un o aelodau’r clwb, Denis Pithon, yn ein helpu i ddeall y rheswm dros y gerddoriaeth.

Jonathan Radford – saxophone and Kaoli Ono – piano

  • Gershwin: Rhapsody in Blue ar gyfer  soprano, alto a thenor sacsoffon a phiano
  • Debussy: Rhapsodie ar gyfer alto sacsoffon a phiano
  • Grieg: (ffidil) sonata op.8
  • Lauba Christian: Jungle ar gyfer unawdydd alto sacsoffon
  • Vitali Tomaso: Chaconne mewn G leiaf
  • Vivancos Bernat: Moustik’s Etude
  • Albeniz: Suite Española op.47 – # 1 Granada, #5 Asturias, #3 Sevilla
  • Iturralde Pedro: Pequeña Czarda

Bydd y sacsoffonydd amryddawn ar y cynllun Making Music AYCA mawreddog yn nghwmni’r llawn cynamryddawn Kaoli o’r Conservatoire de Lyon.

Bu i Jonathan fynychu Chethams, ac fe enillodd ei MA ym Mharis lle’r oedd y sacsoffonydd Prydeinig cyntaf i fod yn rhan o ddosbarth byd enwog Claude Delangle. Mae erbyn hyn yn parhau gyda’i astudiaethau yn y Coleg Cerddoriaeth Frenhinol.

Bu i Kaoli Oni gwblhau ei hastudiaethau repetiteur yng Nghonservatoire Paris yn ddiweddar a bu iddi astudio yn Berlin am flwyddyn hefyd.

Y Teulu McLachlan

  • W.A.Mozart: concerti piano 9, 12, 13, 14

Aiff Rose, Matthew, Callum a Murray ati i ddangos eu medrau pianistig gyda thrawsgrifiadau o bedwar concerti piano Mozart ac mae Elizaveta Saul yn dod a’i phedwarawd gyda thri cyn-fyfyrwyr o Chetham wnaeth berfformio’r Pumawd Schumann yn ddiweddar.

Rydym ni fel clwb yn cynnig cyfle unigryw iddyn nhw tra’u bod nhw yn perfformio cerddoriaeth arbennig inni.

Dinara Klinton – piano

  • Bach-Busoni: Rhagarweiniad a Ffiwg mewn D fwyaf, BWV 532
  • Medtner: Sonata mewn B meddalnod fwyaf “Sonata Romantica”, Op 53 Rhif 1
  • Beethoven: Sonata Rhif 28 mewn A, op. 101
  • Liszt: Transcendental Etudes rhifau 8-9

Darganfyddiad gwych y tymor diwethaf, bu’r pianydd rhagorol Wcrainaidd yn perfformio yn Ewrop a’r Unol Daleithiau o dan y faner “András Schiff Presents”.

Bu inni drefnu iddi berfformio eto yn syth bin!

Mae’r Liszt yn golygu ein bod ni wedi clywed dros hanner y Trosgynolion yn ei dwy gyngerdd.