if ( false !== et_get_option( 'show_footer_social_icons', true ) ) {get_template_part( 'includes/social_icons', 'footer' ); }?>

Fe wnaeth plant o Ysgol Tir Morfa, Ysgol Uwchradd Blessed Edwards Jones, Ysgol Uwchradd y Rhyl ac Ysgol Mair gymryd rhan mewn strafagansa gerddorol “Tipyn o Sioe” yn Neuadd Tref Y Rhyl ar ddydd Mawrth y 26ain o Fehefin. Roedd y digwyddiad, o flaen cynulleidfa o dros 400 ar gyfer ail-berfformiadau caneuon o’r sioeau, hefyd yn cynnwys adran Gogledd Cymru o Only Boys Aloud. Roedd y noson, dan arweiniad Eleri Watkins ac wedi’i goreograffu gan Claire Tranmer, yn ddiweddglo i gyfres o weithdai dros fis yn yr ysgolion gaiff eu noddi gan Glwb Cerdd y Rhyl gyda chefnogaeth ariannol gan Gronfa Gymunedol Gwynt y Môr.