Cyfres Cyngherddau Rhyngwladol Gogledd Cymru 2019 – 20
Cyngherddau nesaf …
There are no upcoming concerts at this time
Edrychwch ar ein rhestr gyffrous o gyngherddau ar gyfer ein tymor 2019-20. Caiff y cyhoedd ddod i bob cyngerdd. Mae talu am aelodaeth clwb hefyd yn rhoi gostyngiad da ichi oddi ar bris y tocyn.
Mae Clwb Cerdd y Rhyl yn chwarae rhan hanfodol ym mywyd diwylliannol arfordir Gogledd Cymru trwy gynnig cerddoriaeth fyw mewn amgylchedd cymdeithasol am bris rhesymol.
Rydym ni’n cynnal 12 cyngerdd dosbarth cyntaf, rhai clasurol yn bennaf, ar bob yn ail ddydd Mercher o fis Hydref tan fis Mawrth. Maen nhw’n rhoi llwyfan i rai o’r cerddorion mwyaf talentog ym Mhrydain a thramor, ac mae llawer ohonyn nhw, er enghraifft y brodyr a chwiorydd Kanneh-Mason, yn megis dechrau ar eu gyrfaoedd proffesiynol.
Caiff y cyngherddau eu cynnal yn Neuadd Tref y Rhyl, sydd wedi’i hadnewyddu yn ddiweddar, a chanddi acwstig arbennig sy’n cyd-fynd yn wych gyda sain ryfeddol ein piano cyngerdd Bösendorfer Imperial.
Rydym ni hefyd yn rhoi llwyfan i bobl ifanc sydd â dawn gerddorol yng Ngogledd Cymru drwy gymryd rhan mewn dosbarthiadau meistr yn ein Cyngherddau Cerddorion Ifanc. Yn ychwanegol i’r amserlen gyngherddau, mae’r clwb hefyd yn rhoi cefnogaeth i’r gymuned pryd bynnag fo bosibl drwy noddi artistiaid sy’n ymweld i berfformio mewn ysgolion, ysbytai a chartrefi gofal.
Y newyddion diweddaraf …
72 mlwydd oed wedi danfon I carchar Rhuthun!
Na, nid person, ond archifau y Clwb sy’n dyddio’n ol i’r cychwyn yn y flwyddyn 1947. Rhoddwyd casgliad rhaglenni, poster, gohebiaeth artisiaid, toriadau papur Newydd a mwy i wasanaeth archif Sir Ddinbych ar gyfer cadw a recordio yn proffesiynol. Yna byddant ar gael ar...
read moreTipyn o Sioe
Fe wnaeth plant o Ysgol Tir Morfa, Ysgol Uwchradd Blessed Edwards Jones, Ysgol Uwchradd y Rhyl ac Ysgol Mair gymryd rhan mewn strafagansa gerddorol "Tipyn o Sioe" yn Neuadd Tref Y Rhyl ar ddydd Mawrth y 26ain o Fehefin. Roedd y digwyddiad, o flaen cynulleidfa o dros...
read moreGwobr gyntaf i Ellis
Bu i Ellis Thomas, pianydd o Landudno berfformio darn meistrolgar yng Ngŵyl Biwmares ar 26 Mai 2018 wythnos ar ôl iddo ennill Gwobr Cerddor Ifanc y Rotari Rhyngwladol (Prydain ac Iwerddon) ar gyfer offerynwyr. Mae'r clwb wedi dilyn ei gynnydd ers iddo gamu ar y...
read moreNoddir gan:
Cysylltwch gyda Chlwb Cerdd y Rhyl
- Cadeirydd: chair@rhylmusic.com
- Is-gadeirydd: vice-chair@rhylmusic.com
- Ysgrifennydd: secretary@rhylmusic.com
- Trysorydd: treasurer@rhylmusic.com
- Aelodau: members@rhylmusic.com
- Cyngherddau: concerts@rhylmusic.com
Rhif Cofrestru'r Elusen 501671
Mae modd cysylltu gyda Chlwb Cerdd y Rhyl dros y ffôn, drwy'r post neu gan ddefnyddio'r ffurflen ar y chwith...
Clwb Cerdd y Rhyl
Yr Ysgrifennydd
Y Mans
Trelogan
Treffynnon
CH8 9BY
Ffôn: 01745 561006
Rhyl Town Hall
North Wales Premier Classical Music Venue