if ( false !== et_get_option( 'show_footer_social_icons', true ) ) {get_template_part( 'includes/social_icons', 'footer' ); }?>
Loading Events

« All Events

  • This event has passed.

Y Triawd Derazey

31st October 2018 @ 7:30 pm - 9:30 pm

£12

Bu i’r cerddorion hyn ymweld â’r Rhyl yn ddiweddar (fel y Triawd Jørgensen) ac maen nhw wedi’u hail-archebu gan fod galw mawr amdanyn nhw.

Mae’n nhw’n driawd piano bywiog o Lundain. Wedi’u sefydlu yn 2012, mae Antonia a Cecilia yn ddiweddar wedi croesawu Joseph Havlat i’r grŵp. Bu i’r tri ohonyn nhw astudio yn yr Academi Gerddoriaeth Frenhinol lle roedd gan y tri Gymrodoriaeth Cerddoriaeth Siambr CAVATINA yn 2015-2016, gyda Jack Liebeck, Robert Cohen a Joanna MacGregor yn ôl eu trefn.

Y triawd oedd yr ensemble cyntaf i ennill gwobr y gynulleidfa a’r wobr gyntaf yng nghystadleuaeth Cerddoriaeth Siambr Sant Martyn, yn ogystal â’r wobr gyntaf yng nghystadleuaeth Cerddoriaeth Ryngwladol Malta yn 2015. Maen nhw wedi perfformio llawer ar draws Prydain ac Ewrop, gan gynnwys yn Sgwâr St John Smith, St Martin-in-the-Fields, Tŷ Opera Oslo, Dartington a’r National Gallery. Maen nhw wedi chwarae i Menahem Pressler, y Triawd Owon, Levon Chillingirian, Ian Brown a Kathryn Stott ac eraill, ac wedi bod mewn dosbarthiadau meistr yn yr Ŵyl Aurora yn Sweden ac yn IMS Prussia Cove, lle bu iddyn nhw astudio gyda Thomas Ades.

Mae’r triawd yn awyddus i edrych ar nifer fawr o ddetholiadau, gan gynnwys gwaith a chomisiynau newydd a chydweithio gydag ensembles a genres eraill o gerddoriaeth. Mae gwaith ar y cyd blaenorol wedi cynnwys prosiectau gydag Ensemble Mirage a’r chwechawd jazz ‘Mosaic’, ac yn ddiweddar gyda’r gyfansoddwraig Cecilia McDowall, gan recordio CD o’i darnau o waith siambr (i’w ryddhau yn fuan ar Deux-Elles).

https://www.trioderazey.com/

Tickets

Tickets are not available as this event has passed.

Details

Date:
31st October 2018
Time:
7:30 pm - 9:30 pm
Cost:
£12

Organizer

Stephen Leeder

Venue

Rhyl Town Hall
Rhyl Town Hall, Wellington Road,
Rhyl, LL18 1BA United Kingdom
+ Google Map