if ( false !== et_get_option( 'show_footer_social_icons', true ) ) {get_template_part( 'includes/social_icons', 'footer' ); }?>

Mae Beethoven yng Nghymru yn dod â chyfansoddwyr, perfformwyr a chlybiau cerdd ynghyd i ddathlu bywyd cerddorol Cymru. Meddyliodd Clwb Cerdd Y Rhyl am brosiect uchelgeisiol o roi cylch cyfan ymlaen o ddeg Sonata Beethoven i’r ffidl a’r piano ar draws tair cyngerdd mewn un tymor a gofyn i’r deuawd lleol Mary Hofman a Richard Ormrod eu perfformio nhw. Ym mhob cyngerdd bydd darn o waith newydd wedi’i gomisiynu gan gyfansoddwraig Gymreig, er mwyn adlewyrchu ac ymateb i Sonatâu Beethoven, ac felly helpu’r gynulleidfa i ymateb yn yr un modd i ddarnau tebyg o waith. Roedd hi’n bwysig bod y prosiect hwn yn gweithio gyda rhai o’r lleisiau benywaidd arbennig sydd yng Nghymru fel llais gwahanol i, a rhoi safbwynt gwahanol o Beethoven.

Yn dilyn perfformiadau cyntaf y darnau newydd o waith yn Y Rhyl bydd y cylch yn mynd ar daith i naw lleoliad arall ac yn cynnwys gweithdai a sgyrsiau gyda’r cyfansoddwyr. Mewn gwlad mor wledig â Chymru, mae clybiau cerdd yn hanfodol er mwyn cynnal cerddoriaeth fyw yn lleol. Mae Clwb Cerdd Y Rhyl yn rhoi llawer o gyfleoedd i bobl ifanc trwy wobrau, dosbarthiadau meistr a pherfformiadau mewn cyngherddau. Efallai bod y cyfleoedd hyn yn gwbl gyffredin i bobl sy’n byw mewn llefydd trefol ond maen nhw’n eithaf prin mewn ardaloedd mwy gwledig. Bwriad y prosiect hwn ydy codi proffil, a chynyddu’r gefnogaeth tuag at y gwaith arbennig mae clybiau cerdd yn ei wneud ar draws Cymru.

Y Cyfansoddwyr:

Rhian Samuel

Cafodd Rhian Samuel ei geni yn Aberdâr ac mae hi wedi byw ym Mhrydain a’r UDA. Heddiw, mae hi’n rhannu ei hamser rhwng Aberdyfi a Llundain. Mae hi’n ysgrifennu cerddoriaeth cerddorfa, siambr, lleisiol a chorawl ac mae hi wedi gweithio gyda llawer o’r artistiaid clasurol blaenaf sydd. Ei chyfansoddiad mawr cyntaf i gerddorfa oedd Elegy-Symphony yn 1981 ac fe gafodd ei darn Tirluniau ei berfformio am y tro cyntaf yn BBC Millennium Proms yn yr Albert Hall gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.

Mae tua 120 o’i darnau o waith wedi’u cyhoeddi hyd heddiw. Yn yr UDA bu iddi gyd-ennill Gwobr ASCAP-Rudolph Nissim yn 1983, tra ym Mhrydain bu iddi ennill y wobr gyntaf yng Ngŵyl Greenwich yn 1979 ac mae hi wedi derbyn sawl acolâd yn dilyn hynny gan gynnwys Medal Glyndŵr am ei gwasanaethau i’r Celfyddydau yng Nghymru a DMus Er Anrhydedd gan Brifysgol Cymru.

Gan gymryd Sonata gwanwyn Beethoven fel ei man dechrau ar gyfer y gwaith newydd, meddai Rhian “Rydw i’n trio, fel bob tro, i ysgrifennu yn briodweddol ar gyfer y ffidl a’r piano… gan obeithio bydd Mary a Richard yn mwynhau chwarae’r darn!”

Dyddiad y perfformiad cyntaf: 17 Hydref 2018  Gwefan: http://www.rhiansamuel.com

Sarah Lianne Lewis

Mae Sarah Lianne Lewis yn gyfansoddwraig â’i cherddoriaeth yn aml yn edrych ar ansawdd offerynnol a phensaernïaeth glywedol llefydd perfformio. Ers iddi raddio o Brifysgol Caerdydd mae hi wedi derbyn sawl comisiwn a pherfformiad gan wyliau Prydeinig ac Ewropeaidd, ac wedi mwynhau gweithio gydag amrywiaeth o berfformwyr, gweithdai addysgol blaenllaw, sesiynau recordio ac ymarferion, ac yn cynnal dosbarthiadau meistr cyhoeddus yn trafod ei cherddoriaeth.

Yn 2016, cafodd ei gwaith “Is there no seeker of dreams that were?” ei berfformio am y tro cyntaf gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ac yn dilyn hynny cafodd ei gynnwys yn rhaglen y gerddorfa ar gyfer tymor 2017/18. Yn 2017 bu i Sarah ddatblygu darn o waith i gôr siambr a chyfansoddi darn cerddorfaol newydd ar gyfer Orchestre Philharmonique de Radio France. Bu iddi hefyd weithio ar y cyd gyda Quatuor Bozzini a gweld ei gwaith yn cael ei gyflwyno a’i berfformio am y tro cyntaf yn Montréal, Canada ac Aberdeen, Yr Alban.

Roedd hi wedi’i denu yn bennaf at 7fed sonata Beethoven. Yn ogystal â chlywed ei gwaith yn cael ei berfformio mewn lleoliadau gwahanol ar draws Cymru, mae hi’n edrych ymlaen at redeg gweithdai ochr yn ochr â’r cyngherddau, a hithau wedi dechrau cyfansoddi pan oedd hi yn yr ysgol uwchradd yn Nyfed.

Dyddiad y perfformiad cyntaf: 9 Ionawr 2019    Gwefan: http://sarahliannelewis.com

Hilary Tann

Mae’r gyfansoddwraig o Gymru, Hilary Tann, yn byw yn Upstate New York lle mae hi’n cadeirio’r Adran Gerdd ac yn Athro John Howard Payne yn yr Union College, Schenectady. Mae preswylfeydd cyfansoddi diweddar yn cynnwys Gŵyl Merched a Cherddoriaeth Ysgol Gerdd Eastman 2011, Gwŷl Cyfansoddwyr Benywaidd Hartford 2013, a’r Ganolfan Cerddoriaeth Gymreig 2015

Caiff ei cherddoriaeth ei chanmol am ei thelynegiaeth a’i chydbwysedd ffurfiol, ac mae wedi’i dylanwadu gan ffurf gref o uniaethu â’r byd naturiol. Mae’r ddau ddiddordeb hyn yn cyfuno a’i mwynhad o haiku a detholiadau testun gan feirdd Cymreig. Mae diddordeb dwfn yng ngherddoriaeth draddodiadol Japan wedi ei harwain at astudio’r shakuhachi yn breifat a bod yn ymwelydd gwadd i Japan, Corea a Tsieina. Mae ei chyfansoddiadau wedi’u perfformio mewn sawl lle a’u recordio gan ensembles tebyg i Gerddorfa Merched Ewropeaidd, Tenebrae, Lontano, MarsyasTrio, Thai Philharmonic, Royal Liverpool Philharmonic, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a KBS Philharmonic yn Seoul, Corea.

Meddai Hilary “Mae Cymru yn wlad llawn pobl sy’n caru cerddoriaeth, lle mae grwpiau amatur yn niferus a lle mae pobl broffesiynol yn canu ac yn chwarae i gynulleidfaoedd craff. I mi, mae’n debyg bod prosiect Beethoven yng Nghymru wedi’i eni o’r ddwy ffrwd hyn ac rydw i wrth fy modd mod i’n ysgrifennu i’r deuawd adnabyddus hwn”

Dyddiad y perfformiad cyntaf: 20 Mawrth 2019 Gwefan: hilarytann.com

Y Perfformwyr:

Mae Richard Ormrod a Mary Hofman wedi perfformio deuawdau gyda’i gilydd am bum mlynedd mewn lleoliadau ar draws Prydain yn ogystal â mynd ar daith ar draws ardal Môr y Canoldir, Maleisia a Cambodia. Maen nhw’n mwynhau chwarae rhaglenni arloesol a rhai mwy traddodiadol gyda’r agosrwydd arbennig sydd gan ddeuawd gŵr a gwraig! Pan nad ydyn nhw’n gwneud cerddoriaeth, maen nhw’n mwynhau treulio amser yn crwydro’r mynyddoedd wrth eu cartref yng Ngogledd Cymru gyda’u merched ifanc.

Ers iddi raddio yn 2007, mae Mary wedi dilyn gyrfa amrywiol fel athrawes a cherddores cerddorfa a siambr. Mae hi wedi bod yn arweinydd gwadd yn yr Edinburgh Quartet yn ogystal â pherfformio gyda phedwarawd Endellion ac yn aelod o Ensemble Cymru. Mae Mary wedi gweithio gyda’r rhan fwyaf o brif gerddorfeydd siambr Prydain a hefyd yn dysgu myfyrwyr i chwarae’r ffidl yn y Junior Royal Northern College of Music ac ym Mhrifysgol Bangor.

Mae Richard yn unawdydd o fri ac mae wedi perfformio concertos ar deithiau rhyngwladol gyda nifer o brif gerddorfeydd. Mae Richard hefyd yn chwarae nifer fawr o ddarnau ar ei ben ei hun mewn lleoliadau ar draws Prydain yn ogystal â mewn dros ddwsin o wledydd tramor. Bu iddo gyrraedd y rownd gynderfynol yng Nghystadleuaeth Piano Rhyngwladol Leeds pan oedd yn 19 oed ac aeth ymlaen i ennill gwobrau mewn cystadlaethau eraill gan gynnwys cystadlaethau Rubenstein a Tchaikovsky. Mae Richard yn rhan o gyfadran biano y Royal Northern College of Music a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Gwefan: http://richardormrod.co.uk/duo/

Sonatâu Ffidl Beethoven

Yn ôl y sôn mae’r deg sonata gan Beethoven yn cynrychioli’r corff o waith pwysicaf ar gyfer y ffidl a’r piano. Fel cymaint o’r genres bu iddo gyffwrdd â nhw, fe wnaeth Beethoven osod y safon yr oedd yr holl gyfansoddwyr eraill yn ceisio ei gyrraedd am lawer o flynyddoedd wedyn. I ddeuawd ffidl a phiano, mae’r darnau hyn o waith yn ganolog i bopeth maen nhw’n ei wneud.

Mae’r safon ar hyd y cylch yn gadarn o ragorol, ac yn aml yn gwbl fawredd. Does yr un sonata gwan – ond buasem ni’n synnu pe baem ni’n dod o hyd i un. Maen nhw’n rhoi cipolwg inni o Beethoven fel dyn ifanc, yn llawn hyder fel cyfansoddwr a phianydd, ac yn cyhoeddi trywydd a ffordd newydd ymlaen. Yna fe ddown ni at gyfnod Heiligenstadt Testament, dechreuad ei fyddardod a datblygiad ei arddull canol oes heriog. I gloi, mae op. 96 ar drothwy ei gerddoriaeth ragorol ddiweddar.

© Daniel Tong, Chwefror 2014

Lleoliadau Perfformio

Clybiau wedi’u rhestru yn nhrefn y gyngerdd gyntaf:

Y Trallwng, Dolgellau, Machynlleth, Dyffryn Afon Gwy, Caerfyrddin, Aberystwyth, Casnewydd, Adbaston a Chwm Rhymni.

Ewch ar wefan pob un am fwy o wybodaeth.

Diolchiadau:

Mae’r prosiect wedi bod yn llwyddiannus gyda diolch i gefnogaeth hael Gwyneth Peters a’r sefydliadau canlynol: